Fy manylion

Rwy’n gyfieithydd annibynnol a fu’n gweithio ar fy liwt fy hun er 1989. Rwy’n cynnig gwasanaeth cyfieithu dibynadwy a phroffesiynol – o lythyrau, posteri a thaflenni byrion i ddogfennau mawr, tendrau a llyfrau swmpus. Bydd pob cyfieithiad yn cael ei ddarllen yn annibynnol cyn cael ei anfon at y cwsmer. Byddaf yn defnyddio’r gwiriwr sillafu CySill, ac yn troi at Eiriadur yr Academi – sy’n gymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder! Mae gen i Yswiriant Indemniad Proffesiynol hefyd.

Graddiais yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, yn 1988 ac rwy’n aelod llawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru; yr Institute of Translation & Interpreting (ITI); a'r Chartered Institute of Linguists (CIoL). Rwyf ar restr Bwrdd yr Iaith Gymraeg o gyfieithwyr cymeradwy ac yn arholwr ar gyfer yr ITI.

Fy mhrif feysydd arbenigedd yw cyllid a bancio; addysg; gwyddoniaeth; marchnata ac amryw byd o feysydd eraill.

Gwasanaethau

· Cyfieithu
· Prawf-ddarllen
· Golygu

Cwsmeriaid

Dyma rai yn unig o'r cwmnïau y byddaf yn cyfieithu iddynt yn rheolaidd:

Banc Barclays
Boots
Bwrdd Apeliadau Arholiadau (EAB)
Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol
DfES
Gwasanaeth Erlyn y Goron
Nationwide
NatWest
NICE
Prifysgol Cymru
Scottish Widows
Swyddfa Dramor a Chymanwlad
Swyddfa Gartref
Trwyddedu Teledu
Adran Masnach a Diwydiant

Cysylltu

I gael gwybod mwy neu i gael pris, anfonwch e-bost neu cysylltwch â mi yn y cyfeiriad hwn:

Ken Owen BA, MCIL, MITI
Wylfa
Marian-glas
Ynys Môn
LL73 8PE

Ffôn/Ffacs:
01248 853700

E-bost:
ken.owen@welshtranslations.co.uk


Reset scroller
scroll down
Scroll up